Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Dyddiad y cyfarfod: 14 Gorffennaf 2016

Papur 1

Cyfrifoldebau’r pwyllgor a’i flaenraglen waith yn y tymor byr

Diben

1.        Mae’r papur hwn yn:

  nodi prif gyfrifoldebau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon (‘y Pwyllgor’) ar gyfer y Pumed Cynulliad, ac yn

  gwahodd y Pwyllgor i gytuno ar ei flaenraglen waith yn y tymor byr. 

Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl

2.        Mae Rheol Sefydlog 16.1 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad sefydlu pwyllgorau a chanddynt bŵer yn eu cylch gwaith i:

(i)           archwilio gwariant, gweinyddiaeth a meysydd polisi’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus cysylltiedig;

(ii)          archwilio deddfwriaeth;

(iii)        ymgymryd â swyddogaethau eraill sydd wedi’u nodi yn y Rheolau Sefydlog; a

(iv)         thrafod unrhyw fater sy’n effeithio ar Gymru.

 

3.        Drwy wneud hyn, mae’n rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau bod pob un o feysydd cyfrifoldeb y Llywodraeth a’r cyrff cyhoeddus cysylltiedig, ynghyd â phob mater sy’n ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a swyddogaethau Ysgrifenyddion Cabinet Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol, yn destun craffu gan bwyllgor neu gan bwyllgorau. 

4.        Ar 28 Mehefin 2016, sefydlodd y Cynulliad chwe phwyllgor pwnc[1] i gyflawni’r swyddogaethau a ddisgrifir uchod, yn ogystal â phwyllgor polisi a deddfwriaeth wrth gefn. Mae chwe phwyllgor arall[2]wedi’u sefydlu hefyd i ymgymryd â’r swyddogaethau a bennir yn y Rheolau Sefydlog, gan gynnwys y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. 

Rôl a chyfrifoldebau’r Pwyllgor

5.        Sefydlwyd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gyda’r cylch gwaith o “archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisïau, yn cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.”

6.        Mae rhestr fanylach o gynnwys cylch gwaith y pwyllgor wedi’i hatodi yn Atodiad 1. Mae rhagor o fanylion am rolau a chyfrifoldebau ehangach pwyllgorau’r Cynulliad wedi’u nodi yn adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Pwyllgorau yn y Pumed Cynulliad’, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Mehefin 2016.

Rôl a chyfrifoldebau’r Cadeirydd

7.        Mae’r Llywydd wedi ysgrifennu at yr holl Gadeiryddion yn dilyn eu hethol yn amlinellu disgwyliadau’r Cynulliad mewn perthynas â’r Cadeiryddion a’r Pwyllgorau, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael iddynt.  Mae copi o’r llythyr hwnnw wedi’i atodi yn Atodiad 2.

Sut mae’r pwyllgor yn gweithredu

8.        Mae’r rheolau a nodir yn Rheol Sefydlog 17 yn llywodraethu’r modd y mae’r pwyllgorau’n gweithredu.  Mae cyngor ar unrhyw agwedd ar Reol Sefydlog 17 ar gael gan y Clercod. Mae rhai o elfennau allweddol Rheol Sefydlog 17 wedi’u nodi isod:

§  Datgan Buddiannau (Rheol Sefydlog 17.24A) – Cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion pwyllgor, rhaid i Aelod ddatgan unrhyw fuddiant, boed yn ariannol neu fel arall, sydd gan yr Aelod, neu hyd y gŵyr yr Aelod, sydd gan aelod o’i deulu, neu y mae’r Aelod neu aelod o’i deulu yn disgwyl ei gael sy’n berthnasol i’r trafodion hynny, ac y gellid ystyried yn rhesymol gan eraill ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod.

§  Cworwm (Rheol Sefydlog 17.31) – Rhaid datgan nad oes cworwm i gyfarfod pwyllgor os bydd llai na thri Aelod neu lai na thraean o nifer aelodau’r pwyllgor, pa un bynnag yw’r mwyaf, yn bresennol.  Rhaid datgan nad oes cworwm i gyfarfod pwyllgor os un grŵp gwleidyddol yn unig a gynrychiolir gan yr Aelodau sy’n bresennol ar ddechrau’r cyfarfod.

§  Natur agored y pwyllgorau (Rheol Sefydlog 17.40) – Rhaid i bwyllgorau gyfarfod yn gyhoeddus, a rhaid caniatáu mynediad ar gyfer darlledu cyfarfodydd cyhoeddus yn unol â’r trefniadau y bydd y Comisiwn yn cytuno arnynt. Caiff cyfarfodydd pwyllgorau eu darlledu ar Senedd TV, ac mae trawsgrifiadau o gyfarfodydd pwyllgorau ar gael ar ffurf ddrafft o fewn tri i bum diwrnod gwaith. Cyhoeddir y fersiwn derfynol o fewn 10 diwrnod gwaith.

§  Cyfarfod yn Breifat (Rheol Sefydlog 17.42) - Caiff pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod ffurfiol neu unrhyw ran o gyfarfod ffurfiol ar gyfer diben penodol.  Nid yw’r Rheolau Sefydlog hyn yn berthnasol i gyfarfodydd anffurfiol.

§  Dirprwyon (Rheol Sefydlog 17.48) –Caniateir i aelod o bwyllgor sydd wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i’r cadeirydd gael ei gynrychioli mewn cyfarfod, neu ran o gyfarfod, gan Aelod arall o’r un grŵp gwleidyddol sydd wedi’i enwi ymlaen llaw.

Cymorth i’r Pwyllgor.

9.        Bydd tîm integredig pwrpasol yn darparu cymorth i’r Pwyllgor ym mhob agwedd ar ei waith. Mae’r tîm integredig yn cynnwys staff y Comisiwn yn y meysydd a ganlyn:

·         Tîm Clercio’r Pwyllgor

·         Y Gwasanaeth Ymchwil

·         Gwasanaethau Cyfreithiol

·         Cyfathrebu (Allgymorth ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc)

·         Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi

Blaenraglen waith y Pwyllgor

10.     Mae rhestr o ymholiadau y gallai’r Pwyllgor eu cynnal yn gynnar yn y Pumed Cynulliad wedi’i hatodi yn Atodiad 3. Mae’r rhestr hon yn seiliedig ar drafodaethau anffurfiol y Pwyllgor yr wythnos diwethaf. Bydd y Pwyllgor yn cael cyfle i drafod ei raglen waith yn y tymor hwy yn ystod tymor yr hydref.

11.     Yn ogystal, efallai y bydd y Pwyllgor am ystyried neilltuo amser yn gynnar yn nhymor yr hydref i drafod materion cynllunio strategol a’r dulliau o weithio y mae’r Aelodau’n eu ffafrio.

Materion eraill

12.     Bydd angen cynnwys nifer o faterion penodol eraill ym mlaenraglen waith y Pwyllgor, gan gynnwys:

Deddfwriaeth

13.     Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 28 Mehefin yn amlinellu Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mlwyddyn gyntaf y Pumed Cynulliad. Mae’r rhaglen yn cynnwys ymrwymiad i ail-gyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd, ond heb y cyfyngiadau ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig.

14.     Nid yw datganiad y Prif Weinidog yn cynnwys amserlen benodol ar gyfer cyflwyno Biliau unigol.  Yn amodol ar y ffaith y bydd y Pwyllgor Busnes yn cytuno i gyfeirio Biliau penodol i’r Pwyllgor, efallai y bydd angen bod yn hyblyg wrth gynllunio’r flaenraglen waith er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn gallu ymateb i ofynion y broses o graffu ar ddeddfwriaeth.

Craffu ar y Gyllideb

15.     Bydd y gwaith o graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn rhan arferol o raglen waith y Pwyllgor. Unwaith y bydd yr amserlen ar gyfer y gyllideb sydd ar ddod wedi’i chytuno, bydd y tîm clercio yn trefnu sesiynau craffu gyda’r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol.

Cam i’w gymryd

16.     Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol:

  nodi rôl a chyfrifoldebau’r Pwyllgor (paragraffau 5 a 6);

  cytuno ar ei flaenraglen waith yn y tymor byr (paragraff 10 ac atodiad 3);

  cytuno mewn egwyddor i neilltuo amser yn gynnar yn nhymor yr hydref ar gyfer cynllunio strategol (paragraff 11); a

  nodi’r materion penodol eraill i’w cynnwys yn y flaenraglen waith (paragraffau 12-14).     



[1] Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau; y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

[2] Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol; y Pwyllgor Cyllid; y Pwyllgor Deisebau; y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus; y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; y Pwyllgor Safonau Ymddygiad